The 2019 Leading Wales Awards® will seek nominations of individuals in Wales (in all sectors and at all levels of responsibility) whose leadership is courageous, inspirational and transformational. This event marks our launch as we open nominations.

This CPD leadership conversation will explore just what is courageous, inspirational and transformational leadership. What does it look like in practice? Is this the kind of leadership that will help us build a bright future and contribute to building the Wales We Want? What do you think?

Our conversation will start with an inspiring key note speech by Gemma Morgan. Gemma will share her story of operating deep inside Kosovo prior to the NATO campaign where her leadership was tested amidst the harsh realities of human conflict. She shares her story to expose what she believes are the fundamental truths about leadership; to highlight what the leadership text books don’t tell us.

Following this, a table top discussion will be facilitated exploring leadership, about courage and strength, trusted relationships that inspire and influence, leading to real change.

 

Leading Wales 1.jpg

Finally, David Jones OBE, CEO of Coleg Cambria and himself a winner of a Leading Wales Award in 2008 will formally launch the 2019 Leading Wales Awards.

The event will be chaired by Barbara Chidgey, Executive Chair of the Leading Wales Awards and a leadership coach / facilitator.

Our sincere thanks to Coleg Cambria for hosting this event.

This CPD event is also open to the Engage for Success Wales network

Here is some pre-event thinking for you as well: The Institute of Leadership &Management have identified 49 components of leadership. Test yourself on one of these components, Self-Awareness, for FREE. CLICK HERE to find out how you stack up.

Gemma Morgan:

gemma.jpg


Gemma Morgan:

Trained at the Royal Military Academy Sandhurst, Gemma was the first woman to be awarded the Carmen Sword for outstanding performance as a young officer. She is a former international athlete, captaining Wales in lacrosse and competing across three World Cups. She was awarded “Most Valuable Player in Europe” in the 1997 Championships.
As a keynote speaker and performance coach, Gemma has 20 years of international experience in leadership and team performance, across the military, business and elite sport sectors. She is a Fellow of the Institute of Leadership & Management. Her work includes board level strategy facilitation, executive coaching with global brands and elite sports team development.


Gemma is an ambassador for the charity “Help the Heroes”, supporting wounded, injured and sick British Armed Forces Veterans. She was proud to be part of “Gareth Malone and the Invictus Games Choir” and recently collaborated with HRH Prince Harry and Warner Brothers in the promotion of “Dunkirk” the movie. She has suffered post-traumatic stress as a result of her military service and hence campaigns to promote better mental health awareness in organisations today.


“Gemma inspires, drawing the audience in with powerful vulnerability. She challenges what it means to be a strong leader and has taught me a great deal about finding resilience, even in the toughest of times.” Gareth Malone OBE, TV presenter and musician
T: @morganeight w: www.morganeight.com 

 

Leading Wales 1.jpg

Bydd y Gwobrau Arwain Cymru 2019 yn ceisio enwebiadau unigolion (ym mhob sector ac ar bob lefel o gyfrifoldeb) y mae eu harweinyddiaeth yn ddewr, yn ysbrydoledig ac yn drawsnewidiol. Mae'r digwyddiad hwn yn nodi ein lansiad wrth i ni agor enwebiadau.


Bydd y sgwrs am arweinyddiaeth DPP hon yn archwilio'r cwestiwn beth yn union yw arweinyddiaeth ddewr, ysbrydoledig a thrawsnewidiol? Sut mae'n edrych yn ymarferol? Ai dyma'r math o arweiniad a fydd yn ein helpu i adeiladu dyfodol disglair a chyfrannu at adeiladu'r Gymru a Garem? Beth ydych chi'n meddwl?


Bydd ein sgwrs yn dechrau gyda phrif araith ysbrydoledig gan Gemma Morgan. Bydd Gemma yn rhannu ei hanes o weithredu'n ddwfn y tu mewn i Kosovo cyn ymgyrch NATO lle profwyd ei harweinyddiaeth yng nghanol realiti llym gwrthdaro dynol. Mae hi'n rhannu ei stori er mwyn amlygu'r hyn y mae hi'n credu yw'r gwirioneddau sylfaenol am arweinyddiaeth; i dynnu sylw at yr hyn nad yw'r llyfrau testun arweinyddiaeth yn ei ddweud wrthym.
Yn dilyn hyn, caiff trafodaeth ei hwyluso gan edrych ar arweinyddiaeth, dewrder a chryfder, cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt sy'n ysbrydoli ac yn dylanwadu, gan arwain at newid gwirioneddol.

Yn olaf, bydd David Jones OBE, Prif Weithredwr Coleg Cambria ac yntau'n enillydd Gwobr Arwain Cymru yn 2008 yn lansio Gwobrau Arwain Cymru 2019 yn ffurfiol.


Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan Barbara Chidgey, Cadeirydd Gweithredol Gwobrau Arwain Cymru a hyfforddwr/hwylusydd arwainyddiaeth.
Diolch yn ddiffuant i Goleg Cambria am gynnal y digwyddiad
Mae'r digwyddiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus hwn hefyd yn agored i'r rhwydwaith 
Engage for Success Cymru

gemma.jpg


Gemma Morgan:

Wedi'i hyfforddi yn yr Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, Gemma oedd y ferch gyntaf i gael ei gwobrwyo gyda'r 'Carmen Sword' am berfformiad eithriadol fel swyddog ifanc. Mae hi'n gyn athletwr rhyngwladol, yn arwain Cymru yn lacrosse ac yn cystadlu ar draws tri Cwpan y Byd. Dyfarnwyd iddi "Y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yn Ewrop" ym Mhencampwriaethau'r 1997.


Fel prif siaradwr a hyfforddwr perfformiad, mae gan Gemma 20 mlynedd o brofiad rhyngwladol ym maes arweinyddiaeth a pherfformiad tîm, ar draws y sectorau milwrol, busnes a chwaraeon elît. Mae hi'n Gymrawd o'r Institute of Leadership & Management. Mae ei gwaith yn cynnwys hwyluso strategaethau ar lefel bwrdd, hyfforddiant gweithredwyr gyda brandiau byd-eang a datblygu timau chwaraeon elît.


Mae Gemma yn llysgennad ar ran yr elusen "Help the Heroes", gan gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi'u clwyfo, wedi'u hanafu ac yn sâl. Roedd hi'n falch o fod yn rhan o "Gareth Malone a Chôr Gemau Invictus" a bu'n cydweithio'n ddiweddar gyda'i Uchelder Brenhinol y Tywysog Harry a Warner Brothers wrth hyrwyddo’r ffilm "Dunkirk". Mae wedi dioddef straen wedi trawma o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol ac felly mae'n ymgyrchu i hybu ymwybyddiaeth well o iechyd meddwl mewn sefydliadau heddiw.
"Mae Gemma yn ysbrydoli, gan dynnu'r gynulleidfa i mewn gyda bregusrwydd pwerus. Mae hi'n herio'r hyn mae'n ei olygu i fod yn arweinydd cryf ac mae wedi dysgu llawer iawn i mi am ddod o hyd i gadernid, hyd yn oed yn yr amseroedd anoddaf. " Gareth Malone OBE, cyflwynydd teledu a cherddor


T: @morganeight w: www.morganeight.com 
Aelodau’r Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru yw:

 

Venue

 

Cambria Business School

Coleg Cambria

Holywell Road

Northop

CH7 6AA

View Map